Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2017
Amser: 09.31 -
10.03
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Paul Davies AC Llyr Gruffydd AC |
Comisiynydd Safonau: |
Syr Roderick Evans QC |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Dywedodd Llyr Gruffydd AC nad oedd wedi cymryd rhan yn nhrafodaeth Grŵp Plaid Cymru ynglŷn â'r ymateb a gyflwynwyd i ymgynghoriad y Pwyllgor ar lobïo.
2.1 Amlinellodd Syr Roderick Evans QC, Comisiynydd Safonau, ei flaenoriaethau ar gyfer ei dymor yn y swydd.
3.1 Trafododd yr Aelodau yr ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor ar lobïo a'r llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch cyhoeddi dyddiaduron Gweinidogion.
3.2 Gofynnodd yr Aelodau am gael paratoi matrics o'r themâu cyffredin sy'n dod i'r amlwg o'r ymatebion.
3.3 Cytunodd yr Aelodau i gymryd tystiolaeth lafar fel rhan o'r ymchwiliad hwn.